Pa le dechreuaf ganu Am ddwyfol farwol loes, A haeddiant mawr yr aberth Fu'n hongian ar y groes? Anfeidrol bwysau pechod A wasgwyd arno ef, A'r pris anfeidrol dalwyd I groesi llyfrau'r nef. Mi ganaf tra fo anadl O fewn i'r ffroenau hyn, Am gariad yn dioddef Ar ben Calfaria fryn; Am goron ddrain blethedig, Am hoelion geirwa'u rhyw, I gànu'm henaid euog Fel eira gwyna'i liw. Fe rwygwyd muriau cedyrn, Fe ddrylliwyd dorau pres, Oedd rhyngom ni a'r bywyd - Mae'r bywyd heddyw'n nes; Palmantwyd yr holl lwybrau, Mae'r pyrth o led y pen, O ddyfnder dinas distryw I eitha'r nefoedd wen. Fe bery trugareddau 'R cyfammod gwerthfawr, drud, Pan ddarfo'r greadigaeth Ddiderfyn oll i gyd; Ni bydd ond dechreu gweled Daioni mawr y ne', Pan gollo haul a lleuad A'r holl blanedau'u lle.
Tôn [7676D]:
gwelir: |
Where shall I begin to sing About divine throes of death, And the great merit of the sacrifice Which was hanging on the cross? The immeasurable weight of sin Was pressed upon him, And the immeasurable price was paid To cross the books of heaven. I will sing while ever there is breath Within these nostrils, About love suffering On the summit of Calvary hill; About a crown of plaited thorns, About nails of a rough kind, To bleach my guilty soul Like snow of the whitest colour. Firm walls were rent, Brass doors were shattered, Which were between us and the life - The life is today nearer; All the paths were paved, The gates are wide open, From the depths of the city of destruction To the extremity of the bright heavens. Endure shall the mercies Of the precious, costly covenant, When all the endless creation Vanishes altogether; It will be but the beginning of seeing The great goodness of heaven, When the sun and moon and all The planets lose their place. tr. 2016 Richard B Gillion |
|